Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.gwaed-cymru.org.uk/
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau hygyrchedd digidol i bobl ag anableddau. Rydym yn gwella profiad y defnyddiwr i bawb yn barhaus ac yn cymhwyso’r safonau hygyrchedd perthnasol.
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.gwaed-cymru.org.uk
Mesurau i gefnogi hygyrchedd
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Wasanaeth Gwaed Cymru. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, dylech allu:
- chwyddo hyd at 200% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver).
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall. Os oes gennych anabledd, mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio.
Adborth a chysylltu
Os oes angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel dogfen PDF hygyrch, print bras, hawdd ei deall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â wbs.communications@wales.nhs.uk yn gyntaf, a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb cyn gynted â phosibl.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r tîm Cyfathrebu wbs.communications@wales.nhs.uk
Statws cydymffurfio
Mae'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) yn diffinio gofynion ar gyfer dylunwyr a datblygwyr i wella hygyrchedd i bobl ag anableddau. Mae'n diffinio tair lefel o gydymffurfiaeth: Lefel A, Lefel AA, a Lefel AAA. Mae www.welshblood.org.uk yn rhannol gydymffurfio â WCAG 2.2 lefel AA. Mae cydymffurfio'n rhannol yn golygu nad yw rhai rhannau o'r cynnwys yn cydymffurfio'n llawn â'r safon hygyrchedd.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
- WCAG 2.1.1 Bysellfwrdd:
- Ni ellir cyrchu dolenni ar frig y dudalen we (y ddwy res o 'Amdanom ni' a 'Alla i roi?') gan ddefnyddio'r bysellfwrdd.
- Nid yw swyddogaeth y bysellfwrdd ar gael wrth ddewis 'Iawn' o fewn y faner cwci.
- WCAG 2.4.7 Ffocws yn weladwy:
- Nid yw ffocws y bysellfwrdd yn weladwy ar y ddewislen hambyrgyr i'w gau unwaith y bydd wedi'i ehangu.
- Nid yw ffocws y bysellfwrdd i'w weld ar bob dolen, megis 'Gwaed' wrth chwyddo 200%.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
- WCAG 1.4.10 Ail-lifo:
- Ar chwyddo 400% ac mewn golwg symudol (320 x 256 picsel), nid yw'r eicon sgwrsio ar waelod y dudalen we yn ail-lifo'n gywir, gan olygu nad yw rhai opsiynau cysylltu ar gael.